'The Silent Voice' gan Michael Prince

Beth: gosodiad cerfluniol
Ble: Neuadd Bentref Llangoed
Pryd: 26 a 27 Ebrill, 11:00 - 17:00

Gan ddefnyddio halen a dŵr o Ynys Môn, datgelir geiriau ar gyfres o gardiau trwy oleuo golau. Mae'r halen yn rhoi breuder cain ymddangosiadol tra'n arddangos cryfder mawr trwy'r crisialau.

Dywed Michael:
“Mae’r syniad o halen yn dod o fy nghelf tir fy hun, a wnaethpwyd gyntaf yn Norfolk, wedi’i hysbrydoli gan Andy Goldsworthy a Richard Long ac wedi’i ddylanwadu ganddynt, a’r defnydd o eiriau gan Bob a Roberta Smith.

Mae'r gwaith yn ymchwilio i hunaniaeth trwy iaith ysgrifenedig. Wedi’i syfrdanu gan hanes fy nain, Ivy, pan oedd yn 8 oed, yn gwrthod y cyfle i ddysgu Cymraeg yn yr ysgol, yn credu ei bod yn “iaith farw” ac yn difaru am byth gyda’r dewis hwnnw, mae’r gweithiau hyn yn edrych ar y syniad bod iaith a’r hunaniaeth gysylltiedig ynddi, yn gudd, segur, nes bod rhyngweithio yn digwydd trwy ddarllen neu siarad, gan ddod â hi yn ôl yn fyw.”

Blaenorol
Blaenorol

Holwch yr afon - Mapio Cymunedol

Nesaf
Nesaf

'Adar Bach - Adar Bach' gan Amanda Bos