'Adar Bach - Adar Bach' gan Amanda Bos
Beth: Gosodiad Cerfluniol
Ble: Gardd Neuadd y Pentref Llangoed a'r Ardaloedd Cyfagos
Pryd: 26 a 27 Ebrill, 2025
Mae adar yn glanio yn Llangoed – adar seramig bach, syml eu ffurf a’r cyfan ychydig yn wahanol, yn dathlu unigoliaeth unigryw ein ffrindiau pluog a’u rhyngweithio â ni fel bodau dynol. Mae’r cerfluniau hyn yn cysylltu â byd natur, gan gydnabod y sgyrsiau rhwng y dirwedd naturiol a’n byd sy’n datblygu o hyd.
Wedi'i leoli yn yr ardd a'r coed a'r coetir cyfagos, os gallwch ddod o hyd i un, mae croeso i chi fynd ag un adref.