'Adnewyddu Plas Bodfa Llangoed' Joan West
Dychwelyd at Unus Multorum 2020
Mae'r ffotograffydd Joan West yn paratoi ar gyfer adnewyddiad ffisegol a chysyniadol Plas Bodfa trwy greu llinell gyfan o baent, ffabrig a phapur wal i gyd wedi'u hysbrydoli gan liwiau, gweadau, delweddaeth a hwyliau a geir y tu mewn i'r tŷ.
Prosiect Joan West fel rhan o'r Ped4ir Mon Collective.
Mae 'Adnewyddu Plas Bodfa Llangoed' yn archwilio'r syniad o unigoliaeth o fewn cydweithfa. Dyma lyfr patrymau papur wal a grëwyd o ddelweddau o Blas Bodfa, Llangoed. Prosiect gan Joan West fel rhan o gydweithfa Ped4ir Mon. Mae'r gwaith hwn yn rhan o 'Unus Multorum', arddangosfa a oedd i fod i agor ym mis Ebrill 2020 gyda phrosiectau a gosodiadau gan 111 o bobl greadigol. Wedi'i drawsnewid gan y pandemig byd-eang, mae wedi esblygu'n brosiect di-amser, sy'n datblygu'n ysgafn dros gyfnod y flwyddyn y tu mewn i'r tŷ ac yn y byd digidol.
Mae 'Adnewyddu Plas Bodfa Llangoed' yn archwilio'r syniad o unigoliaeth o fewn cydweithfa. Dyma lyfryn sampl ffabrig a grëwyd o ddelweddau o Blas Bodfa, Llangoed. Prosiect gan Joan West fel rhan o gydweithfa Ped4ir Mon. Mae'r gwaith hwn yn rhan o 'Unus Multorum', arddangosfa a oedd i fod i agor ym mis Ebrill 2020 gyda phrosiectau a gosodiadau gan 111 o bobl greadigol. Wedi'i drawsnewid gan y pandemig byd-eang, mae wedi esblygu'n brosiect di-amser, gan ddatblygu'n ysgafn dros gyfnod y flwyddyn y tu mewn i'r tŷ ac yn y byd digidol.