Drwy gyfres o sgorau dethol o'r llyfr ' A Year of Deep Listening: 365 Text Scores for Pauline Oliveros ' fe wnaethon ni ymgolli yn nhirwedd sain Plas Bodfa. Wrth i ni symud o'r tŷ gwydr i ardd giât y lleuad, o'r ardd suddedig i ddôl blodau'r gwynt, newidiodd y dirwedd sain (a'r tywydd!). Fe wnaethon ni diwnio i'r gwahaniaeth rhwng gwrando a chlywed, synau adweithiol, synau byw a'n synau ein hunain.
Diolch yn fawr i Clare Brumby am ein harwain ar ddiwrnod mor ddiddorol! Cefnogir y digwyddiad hwn yn garedig gan Plas Bodfa a'r Ganolfan ar gyfer Gwrando Dwfn , Efrog Newydd.
Roedd hi’n bleser mawr gallu darganfod mwy am Pauline Oliveros yn yr hyn a fyddai wedi bod yn 90 oed iddi!