Mwydo Pren
Tipyn o gwmni i'r piano heno. Treuliodd ein ffrâm bren y noson yn y pwll heddiw, yn socian, yn paratoi i ddal gwely o glai. Mae’r clai yn sylfaen i’n harddangosfa flodeuog, gwisg dda wedi’i chreu gan bobl greadigol lleol fel rhan o Ŵyl Cynhaeaf Llangoed .
DYDDIAD: 6 HYDREF, 2024
AMODAU: 15 GRADD C, GWYNT
DYDDIAU YN Y DWR: 1,119